Amgueddfa Cymru
Amgueddfeydd, treftadaeth, diwylliant – beth sy ’na i fi?
Dyma’r cwestiwn ofynnon ni i grwpiau o bobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf, Ceredigion, Torfaen, Caerffili ac Abertawe.
Mae’r holl grwpiau wedi gweithio gydag artistiaid profiadol i edrych ar eu treftadaeth ddiwylliannol a chreu gwaith project o ansawdd uchel mewn cyfrwng o’u dewis – o animeiddio i ddylunio ar gyfer y we.
Mae Ar Dir Cyffredin wedi creu cyfleoedd ac achrediad i bobl ifanc, ac wedi dangos bod gan amgueddfeydd rywbeth i’w gynnig i’r gymuned gyfan yn y 21ain ganrif, dim ots beth yw eu hoedran, eu gallu na’u cefndir diwylliannol.
Cefnogir y project allestyn yma gan:







