Gan ddefnyddio’r cyfuniad iawn o sgiliau a thrwy fabwysiadu agwedd ddadansoddol gymharol ar wahân, credwn y gallai Amgueddfa Cymru greu modiwl hyfforddiant unigryw o’r enw ‘cysylltiad ieuenctid â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth’ sy’n pwysleisio methodolegau hynod effeithiol Ar Dir Cyffredin, y gwersi a ddysgwyd a’r llwyddiannau a brofwyd. Dylai’r modiwl hwn gael ei ddylunio ar gyfer pobl sy’n cael eu hyfforddi fel ymarferwyr gwaith ieuenctid, yn ogystal â rhai sy’n gweithio yn y maes yn barod ac sy’n dymuno adnewyddu eu sgiliau.
Pe bai modiwl o’r fath yn cael ei ddatblygu drwy Rwydwaith y Coleg Agored, byddai ganddo nifer o fanteision uniongyrchol yn y maes a byddai’n bodloni amcanion y cynllun Ar Dir Cyffredin drwy:
a) dynnu sylw at ac atgyfnerthu rôl y celfyddydau a diwylliant mewn cyflwyno gwaith ieuenctid;
b) chwistrellu syniadau modern ac arferion newydd i’r maes hwn;
c) annog ymarferwyr gwaith ieuenctid i greu profiadau artistig a diwylliannol a’u cynnwys o fewn y cynlluniau cyflwyno;
ch) rhoi cyfle i fwy o ymarferwyr ddatblygu perthynas waith gydag Amgueddfa Cymru a chyrff celfyddydau a diwylliannol lleol eraill
d) cyflwyno mwy o bobl ifanc i weithgareddau artistig a diwylliannol, a gobeithio annog agwedd fodern a chadarnhaol tuag at Amgueddfa Cymru a’r hyn y gall ei gynnig iddynt.
Mae’n eglur hefyd o’n gwerthusiad fod cynllun Ar Dir Cyffredin yn enghraifft ardderchog o ymrwymiad Amgueddfa Cymru i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd pwysig nad ydynt yn draddodiadol wedi bod ag unrhyw gyswllt â’r sefydliad. Cyrhaeddwyd niferoedd mawr o bobl ifanc o gymunedau o dan anfantais ac maent wedi elwa. Pa bynnag ffordd y penderfyna Amgueddfa Cymru fynd â’r cynllun Ar Dir Cyffredin (neu ei egwyddorion cynhenid) yn ei flaen yn y dyfodol, gobeithiwn y cydnabyddir ei botensial mawr i gyfrannu at wireddu amcanion y Weledigaeth ac y bydd maes o law yn dod yn rhan o’r prif lif ar draws y sefydliad.







