Dros y pum mlynedd diwethaf mae Amgueddfa Cymru wedi rhoi buddsoddiad sylweddol mewn cynllun arloesol sydd wedi ei anelu at greu brwdfrydedd, cysylltu ag a dod â budd i bobl ifanc rhwng 14 a 24 oed. Mae wedi dysgu ac yn dal i ddysgu o’r profiad hwn mewn ffyrdd sy’n dylanwadu ar ei weithgareddau prif lif ei hun ac yn rhoi gwybodaeth ar gyfer sector ehangach yr amgueddfeydd, orielau ac archifau. Mae Ar Dir Cyffredin 2 wedi cyflawni yn hynod o dda yn erbyn yr amcanion a’r targedau a osodwyd ar ei gyfer. Mae angen rhoi ystyriaeth yn awr i beth sy’n dilyn hyn yn 2007 a thu hwnt.
Mae Ar Dir Cyffredin wedi cyflwyno rhaglen celfyddydau ieuenctid sy’n derbyn adnoddau sylweddol ac sydd o ansawdd uchel, wedi ei seilio ar ei gysylltiad â sefydliad diwylliannol cenedlaethol pwysig. Mae hefyd wedi cysylltu agwedd artistig gyda safbwyntiau sy’n ymwneud â threftadaeth a diwylliant Dros y pedair neu bum mlynedd ddiwethaf, mae Amgueddfa Cymru a’i phartneriaid niferus sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid a chelfyddydau cymunedol wedi crynhoi profiad sylweddol y dylid datblygu arno er mwyn y dysgu critigol a allai ddeillio ohono, ac a allai gynhyrchu etifeddiaeth barhaol ym myd gwaith ieuenctid.
Credwn felly yn ogystal â cheisio cyflwyno’r fformiwla lwyddiannus gyfredol i fwy o grwpiau ieuenctid, y dylid chwilio am gyfle hefyd i adolygu ac adlewyrchu ar y profiad fel y gall gwerth cynhenid Ar Dir Cyffredin gael ei ddefnyddio er budd gwaith ieuenctid, celfyddydau cymunedol a gwarchodaeth treftadaeth. Hyd yma mae cyflymder a graddfa cynllun Ar Dir Cyffredin 2 wedi tueddu i atal cyfleoedd ar gyfer y math hwn o ystyriaeth.







