Rhoddir llawer o enghreifftiau gan hwyluswyr prosiectau o’r effeithiau manteisiol a gafodd y cynllun ar bobl ifanc. Roedd y cyfle a gaent i brofi technegau a gweithgareddau newydd, gan gynnwys ystod o ffurfiau celf a chyfryngau, a’r cyfle i ymchwilio, dylunio a chreu rhywbeth o ddim byd yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Teimlid bod prosiectau wedi sgorio’n dda yn nhermau mwynhad ac ysbrydoliaeth, gan hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach, a chyfrannu sgiliau newydd, yn arbennig y rhai y gellir eu defnyddio mewn bywyd bob dydd. Roedd ychydig llai o sicrwydd bod agweddau pobl ifanc, eu gwerthoedd, eu hysgogiad a’u hymddygiad yn y dyfodol wedi newid yn sylweddol drwy Ar Dir Cyffredin 2, er bod enghreifftiau unigol wedi eu rhoi.
Creodd Amgueddfa Cymru seilwaith o bartneriaeth werthfawr drwy Ar Dir Cyffredin 2 sydd â photensial enfawr fel mecanwaith ar gyfer ymestyn hygyrchedd adnoddau Amgueddfa Cymru y tu hwnt i gynulleidfaoedd traddodiadol. Pwysleisiodd trafodaethau gyda gweithwyr ieuenctid, athrawon ac artistiaid y gwerth a roddant i gyd ar y berthynas gyda’r sefydliad a’u gobeithion pendant y bydd hyn yn cael ei gynnal a’i ddatblygu yn y dyfodol. Gwnaed awgrymiadau ynghylch sut y gall y berthynas gyda’r sector gwasanaethau ieuenctid gael ei chryfhau ymhellach mewn dull strategol.
Nododd dadansoddiad graffigol o ddata monitro’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd fod Ar Dir Cyffredin 2 wedi mynd y tu hwnt i’w holl dargedau bron erbyn i’r cynllun ddod i ben ym mis Mawrth 2007. Mae’r cyflawniad ardderchog hwn yn adlewyrchu brwdfrydedd a gwaith caled tîm Ar Dir Cyffredin 2 a’i lu o bartneriaid mewn gwaith ieuenctid a chelfyddydau cymunedol. Cofrestrodd bron i 600 o bobl ifanc mewn prosiectau Ar Dir Cyffredin 2, 50% yn fwy nag a ragdybiwyd i ddechrau. Mae ein gwerthusiad yn dangos yn glir fod Ar Dir Cyffredin 2 wedi cael effaith fanteisiol ar lawer o bobl ifanc a’u cymunedau lleol. Cyflwynodd dros 85% o gyfranogwyr a gofrestrodd ffeiliau Rhwydwaith y Coleg Agored a arweiniodd at ennill achrediad. Mae hyn yn ganlyniad ardderchog a alluogodd i ryw 500 o bobl ifanc ennill gwobr wedi ei hachredu, a llawer ohonynt am y tro cyntaf. Yn ddiddorol, y gyfradd llwyddiant ar gyfer gwrywod oedd 91% o’i gymharu â 81% i fenywod. Y gyfradd llwyddo i leiafrifoedd oedd bron i 95%. Roedd y gyfradd llwyddiant ar draws y pum sir yn weddol unffurf.







