Gwerthusiad o’r Cynllun ‘Ar Dir Cyffredin’

Yn amlwg mae llawer o ffactorau ymarferol a seicolegol cymhleth yn dylanwadu ar gynlluniau pobl ifanc a’u dewisiadau mewn bywyd. Byddai’n ymddangos yn afresymol felly i ddisgwyl y byddai cyfranogiad mewn prosiect Ar Dir Cyffredin 2, faint bynnag o ysgogiad a phleser y byddai yn ei roi, yn cael mwy na dylanwad ymylol ar gynlluniau’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn y dyfodol. Er hynny, awgrymodd y dystiolaeth ei fod yn gwella hyder, yn cyflwyno sgiliau newydd ac yn ehangu safbwyntiau mewn ffyrdd sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at y ffordd mae rhywun ifanc yn meddwl ac yn datblygu yn y tymor hwy.

Roedd adborth a gafwyd oddi wrth hwyluswyr prosiectau – gweithwyr ieuenctid, athrawon ac artistiaid cymunedol – yn nodi bod Ar Dir Cyffredin 2 yn cael ei werthfawrogi’n fawr:

  • Roedd yn galluogi cyrff oedd yn gweithredu fel partneriaid i ehangu eu cefnogaeth i bobl ifanc, ac roedd gallu’r cynllun i dalu costau sy’n aml yn gweithredu fel barier i gymryd rhan, yn cael ei werthfawrogi’n arbennig.
  • Tra bod llawer o bartneriaid wedi cynnal gweithgareddau yn seiliedig ar y celfyddydau i bobl ifanc, roedd Ar Dir Cyffredin 2 yn cynnig cyfle iddynt ymchwilio i themâu diwylliannol a threftadaeth am y tro cyntaf, gan ymestyn eu gwaith ieuenctid i faes cwbl newydd. Roedd y dull yn seiliedig ar y celfyddydau yn cael ei werthfawrogi am ei allu i gysylltu â phobl ifanc o bob gallu.
  • Roedd Ar Dir Cyffredin 2 yn galluogi partneriaid i gynnal prosiectau o safon anarferol o uchel yn nhermau ansawdd yr artistiaid dan sylw, ansawdd y deunyddiau a’r offer ar gael, yr amserlen y gellid datblygu prosiectau o’i mewn, manteision fframwaith cwrs Rhwydwaith y Coleg Agored, a’r cyfle i arddangos a dathlu cyflawniadau’r bobl ifanc yn gyhoeddus.
  • Roedd rhychwant a hyblygrwydd y cynllun, a oedd yn galluogi i grwpiau’r prosiect gael dylanwad mawr ar beth roeddent yn dewis ei wneud, yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Roedd yn caniatáu i brosiectau ddatblygu mewn ffordd ‘naturiol’, wedi ei rheoli gan y grwpiau eu hunain.
  • Roedd llawer yn tynnu sylw at yr ymweliadau y bu iddynt fynd arnynt i amgueddfa neu oriel fel un o gryfderau arbennig y cynllun.
  • Gwerthfawrogwyd parodrwydd tîm Ar Dir Cyffredin 2 i gynorthwyo a bod yn gyfeillgar hefyd.

Y dudalen nesaf >>

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm