Dangosodd archwiliad o sampl ar hap o 50 o ffolderi fod yr adrannau i gyd yn cael eu cwblhau yn rheolaidd, gan ddarparu tystiolaeth glir o ffordd o feddwl pob cyfranogwr wrth i’r prosiect ddatblygu. Mae’n ymddangos fod yr ymweliad â’r amgueddfa neu’r oriel wedi bod yn hynod o lwyddiannus i ysgogi syniadau a rhyddhau creadigedd. Datgelodd llawer o ddyddiaduron personol broses ddysgu gadarnhaol, ac er nad oedd yr angen i wneud gwaith ysgrifenedig bob amser yn boblogaidd, roedd yn nodedig fod hyd yn oed cyfranogwyr gydag anawsterau dysgu wedi gwneud ymdrechion mawr i gwblhau eu ffolderi eu hunain. Ni allai’r holl gyfranogwyr weld gwerth mewn dilyn cwrs Rhwydwaith y Coleg Agored i ddechrau, a gwrthododd rhai gymryd rhan. Ond newidiodd y rhan fwyaf eu meddyliau wrth iddynt weld eu cyfoedion yn paratoi ffolderi i ennill cymhwyster. Mewn rhai enghreifftiau, gwnaed llawer o ymdrech ar y funud olaf i gael ffolderi wedi eu cwblhau a’u cyflwyno.
Cynhaliwyd dwy sesiwn gweithdy ar wahân gyda sampl o gyfranogwyr y prosiectau ac yn ystod hynny bu tîm o bobl ifanc sydd wedi eu hyfforddi mewn gweithio o dan arweiniad cyfoedion yn ymchwilio i’w syniadau am y cynllun. Mae gwerthusiadau o dan arweiniad cyfoedion o’r fath yn gallu rhoi golwg amhrisiadwy ar sut mae pobl ifanc yn edrych ac yn cysylltu â gwasanaeth a roddir drwy greu amgylchedd ifanc ac ymrymusol a all annog mwy o gyfranogiad nag un a arweinir gan oedolion. Ond rhaid bod yn ofalus bob tro wrth ddadansoddi’r adborth o brosesau o’r fath, oherwydd yn aml gall sylwadau pobl ifanc gael eu cymryd naill ai’n rhy lythrennol neu eu gwrthod yn gyfan gwbl.
Awgrymodd canlyniadau’r gweithdai er bod cyfranogwyr yn Ar Dir Cyffredin 2 yn uniaethu’n gryf gyda’u prosiectau eu hunain, mai ychydig o werthfawrogiad oedd ganddynt o’r ffaith eu bod wedi eu cysylltu â chynllun ehangach. Er bod y cynllun yn cynnig hyblygrwydd a rheolaeth i grwpiau ynghylch amcanion y prosiect ac agweddau artistig, teimlai pobl ifanc o hyd bod eu gweithwyr ieuenctid, athrawon neu artistiaid yn fwy grymus na nhw wrth benderfynu ar y materion hyn. Mae prosiectau yn seiliedig ar y celfyddydau yn nodwedd reolaidd o weithgareddau gwaith ieuenctid, ond yr hyn oedd yn gwneud Ar Dir Cyffredin 2 yn wahanol oedd ei thema diwylliant/treftadaeth ac ansawdd y profiadau creadigol y gellid eu rhoi. Roedd gwrthwynebiad pobl ifanc i ymweld ag amgueddfeydd ac orielau yn gryf, oherwydd nad ydynt yn eu gweld yn naturiol fel ‘lleoedd i bobl ifanc’. O ganlyniad, gall hyd yn oed profiad cadarnhaol o brosiect Ar Dir Cyffredin 2 newid dim ond ychydig ar dybiaethau, er bod tystiolaeth fod yr effaith ar rai pobl ifanc yn bwerus.







