Gwerthusiad o’r Cynllun ‘Ar Dir Cyffredin’

Cynhyrchodd pob prosiect broses a chynnyrch. Helpodd y broses gyfranogwyr i ennill sgiliau meddal a chaled fel hunan-barch, gweithio mewn grŵp, ymchwil ymchwiliadol, cyfathrebu, cyflwyno, ffotograffiaeth, peintio, gwneud ffilmiau, cerflunwaith, dylunio tudalennau gwe a recordio sain. Dysgwyd llawer o’r rhain yn gynnil wrth i’r prosiect ddatblygu, ond roedd strwythur cwrs Rhwydwaith y Coleg Agored yn annog myfyrio, adnabyddiaeth a recordio’r profiadau dysgu hyn. Roedd y cynnyrch – y gwaith celf – yn ganlyniad mwy cyffyrddadwy a oedd bob amser yn destun balchder, ac yn galluogi cyfranogwyr i ddangos i’w cyfoedion, teuluoedd cymunedau a’r cyhoedd yr hyn yr oeddent yn alluog o’i gyflawni. Nodwedd arbennig arall o’r cynllun oedd y ffordd y defnyddiai Amgueddfa Cymru ei chyfleusterau da i arddangos yr holl weithiau celf o ansawdd uchel hyn fel bod miloedd o bobl yn gwerthfawrogi sgiliau creadigol y mae pobl ifanc yn eu defnyddio i ymchwilio i’w lle yn y byd a’r dylanwadau a gafodd y gorffennol arnynt.

Anelai’r cam hwn o’r cynllun Ar Dir Cyffredin at gysylltu ag a dod â budd i o leiaf 400 o bobl ifanc rhwng 14 a 24 oed. Awgrymodd rhagfynegiad alldro cywir fod bron i 600 wedi bod yn ymwneud â 55 o brosiectau Ar Dir Cyffredin 2, gyda rhyw 500 yn ennill achrediad Rhwydwaith y Coleg Agored. Roedd graddfa’r cynllun felly yn sylweddol, yn ymwneud fel ag yr oedd â nifer fawr o bobl ifanc o ystod o gymunedau difreintiedig trefol a gwledig.

Agwedd arbennig o Ar Dir Cyffredin 2 oedd sut yr oedd yn cyfuno cwrs Lefel 1 wedi ei deilwrio yn arbennig Rhwydwaith y Coleg Agored gyda gweithgareddau creadigol, celfyddydau a dylunio ac ymchwil hanesyddol cysylltiedig. Roedd y cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gymryd rhan mewn o leiaf 30 awr o waith prosiect ac yn ystod y cyfnod hwn roedd yn rhaid iddynt gynllunio, cofnodi a gwerthuso eu profiadau dysgu gan ddefnyddio ffolder i’r cwrs. Roedd dilyniant rhesymegol i strwythur y ffolderi, ac roedd dyluniad pob adran yn ddychmygus ac yn hawdd ei lenwi. Nid oedd rhaid i’r defnyddiwr ysgrifennu mwy na brawddeg neu ddwy, ac mewn rhai enghreifftiau gair, ymadrodd neu lun oedd y cyfan oedd yn angenrheidiol i gofnodi syniadau cynllunio a gweithgareddau perthnasol. Roedd digon o gyfle i ddefnyddio ffotograffau a lluniadau, ac mae’n ymddangos fod hyn wedi bod yn elfen boblogaidd o’r ffolderi.

Y dudalen nesaf >>

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm