Cynhaliwyd Ar Dir Cyffredin 2 mewn pum sir: Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Caerffili, Abertawe a Cheredigion. Fe’i rheolwyd gan dîm penodedig o dri o bobl o dan y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Rhaglennu a leolir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe’i cefnogwyd gan Grŵp Monitro Mewnol a oedd yn adolygu perfformiad, a hefyd gan Grŵp Llywio ehangach gydag aelodau annibynnol oedd yn adolygu strategaeth ehangach a sut y gallai’r cynllun ddatblygu yn y dyfodol.
Ystyrir Ar Dir Cyffredin fel cynllun sy’n esblygu’n gyson y gall Amgueddfa Cymru ddysgu drwyddo sut i annog mwy o ddefnydd o, a chyfranogiad yn, adnoddau’r sefydliad. Mae’r ffyrdd y gall esblygu yn y dyfodol a’r ffordd y gallai’r gwersi a ddysgwyd gael eu ‘prif ffrydio’ drwy Amgueddfa Cymru wedi bod yn thema trafodaethau yn rheolaidd, ac mae ein hadroddiad gwerthuso yn cyfrannu at y meddylfryd hwn.
Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y bobl ifanc oedd yn cyfranogi yn y cynllun drwy dechnegau gwerthuso o dan arweiniad cyfoedion. Dyluniwyd prosesau gwerthuso i alluogi cymaint o adborth uniongyrchol â phosibl i lifo oddi wrth y cyfranogwyr a’r partneriaid yn ôl i Amgueddfa Cymru.
Dyluniwyd Ar Dir Cyffredin 2 o amgylch wyth o amcanion, a oedd yn gofyn am strwythur cymharol gymhleth. Roedd llawer o amcanion yn debyg ac yn atgyfnerthu ei gilydd ac roedd y buddiolwyr yn cynnwys pobl ifanc, cymunedau lleol, mudiadau gwaith ieuenctid, artistiaid cymunedol, amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth. Harneisiwyd pedair ffynhonnell o arbenigedd - gwasanaethau ieuenctid lleol, artistiaid cymunedol proffesiynol, amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth, a Rhwydwaith y Coleg Agored.







