Gwerthusiad o’r Cynllun ‘Ar Dir Cyffredin’

CRYNODEB GWEITHREDOL

Paratowyd gan: Neil Caldwell Associates Limited gyda chymorth Youthlink Cymru

Mae ‘Ar Dir Cyffredin’ yn gynllun estyn allan arloesol a’i nod yw cysylltu â phobl ifanc rhwng 14 a 24 mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau yn seiliedig ar y gymuned gyda thema eang yn ymwneud â threftadaeth/diwylliant. Fe’i lansiwyd am y tro cyntaf fel cynllun peilot gan Amgueddfa Cymru yn 2002, gyda chyllid i’w gefnogi oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chyllidwyr eraill. Ehangodd bedair gwaith pan gafodd ei ymestyn yn 2005 fel ‘Ar Dir Cyffredin 2’ a gyllidwyd gan grant y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd gydag arian cyfatebol oddi wrth Amgueddfa Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad Lloyds TSB ac Ymddiriedolaeth Ernest Cook.

Y grŵp targed yw pobl ifanc rhwng 14 a 24 oed o gymunedau difreintiedig a/neu’r rhai hynny sy’n wynebu anfanteision yn eu bywydau. Maent yn cael eu recriwtio a chysylltir â hwy drwy wasanaethau ieuenctid lleol y mae Amgueddfa Cymru yn gweithio’n agos â hwy. Mae’r cynllun yn defnyddio gweithgareddau sy’n seiliedig ar y celfyddydau yn bennaf o dan gyfarwyddyd artistiaid cymunedol profiadol i annog y cyfranogwyr ifanc i ymchwilio i ddylanwadau treftadaeth a diwylliant ar eu bywydau. Mae cyfranogwyr yn cael llais cryf yn nodau a gweithgareddau pob prosiect, cyhyd ag y bo ganddo thema fras yn ymwneud â threftadaeth/diwylliant, ac mae’n rhaid iddynt fynd i ymweld ag o leiaf un amgueddfa neu oriel; nid o anghenraid un sy’n cael ei chynnal gan Amgueddfa Cymru. Defnyddir gweithgareddau celfyddydau a dylunio technegol eang i annog cyfranogwyr i gael cymhwyster wedi ei achredu drwy strwythuro ac adlewyrchu ar eu llu o brofiadau dysgu. Mae llawer o’r gweithiau celf o ansawdd uchel sy’n deillio o hyn yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae hyn a chyhoeddusrwydd lleol yn golygu bod cyflawniadau’r bobl ifanc yn cael eu cydnabod a’u dathlu.

Y dudalen nesaf >>

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm