Aeth grŵp o bobl ifanc o Glwb Ieuenctid Ystrad Meurig ati i greu eu dehongliad fideo ei hunain oedd yn cymharu hanes cefn gwlad Ystrad Meurig â hanes yr Ardal Ddu. Cyfwelodd y grŵp ag amryw o bobl er mwyn canfod hanesion cudd o’r naill ardal a’r llall. Aeth y bobl ifanc ar daith yn ôl i’r 1930au yn y Black Country Living Museum lle cawsant gyfle i brofi bywyd pobl yr Ardal Ddu am ddiwrnod; aethant ar daith ar gwch camlas, i weithio yn y pyllau glo, a dod wyneb yn wyneb â disgyblaeth lem ysgolion y cyfnod.
Clwb Ieuenctid Ystrad Meurig







