Ysgol Gyfun y Pant
Gweithiodd grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Gyfun Y Pant ym Mhontyclun, Rhondda Cynon Taf, gyda’r artist Cindy Ward, i greu llidiart ysgol newydd a chyffrous ar gyfer mynedfa eu hysgol. Amcan y project oedd dylunio llidiart a fyddai’n symbol gweledol o’r ysgol ac o hanes cymdeithasol y gymuned leol.
Ymchwiliodd myfyrwyr i’w hetifeddiaeth ddiwylliannol leol i ganfod y rheswm dros adeiladu’r ysgol. Edrychasant ar fapiau o’u bro, yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, er mwyn gweld y gwahaniaeth yn nifer y boblogaeth a’r newid yn y defnydd a wnaed o’r tir. Mae cynllun y llidiart yn cynnwys nodweddion gwahanol a ddaeth i’r amlwg o ganlyniad i’r ymchwil – defnyddio’r tir ar gyfer diwydiant lleol megis glo, tun a mwyn haearn, y rheilffordd a ddefnyddiwyd gan ddiwydiant, y tir yn cael ei ffurfio gan amaethyddiaeth ac Afon Clun. Defnyddiodd y myfyrwyr wreiddiau planhigion i bortreadu Ysgol Y Pant ac i gydgysylltu’r elfennau amrywiol ag effeithiodd ar ei lleoliad yn hanesyddol.
Mae’r myfyrwyr wedi dysgu amrywiaeth o dechnegau gweithio metel a hefyd wedi cydweithio’n dda fel tîm i drafod a datblygu’r cynllun terfynol cyffrous.







