Cymry Gwerth eu Halen

Roedd y prosiect yma wedi’i anelu at ferched ifanc diamddiffyn o Dorfaen, gan roi cyfle iddynt drafod y ffordd y mae agweddau fel iechyd rhyw, hunanddelwedd gorfforol a hunan-barch yn effeithio ar ferched ifanc Cymru.

Cafodd y merched gryn fwynhad wrth ymchwilio i rôl merched Cymru, a darganfod sut mae safle merched mewn cymdeithas wedi newid ar hyd yr ugeinfed ganrif ac i’r unfed ganrif ar hugain.

Ar benwythnos preswyl yng Nghastell St Briavel, cymerodd y merched ran mewn nifer o weithdai oedd yn annog trafodaeth a dadl gan wella’u hunanhyder. Uchafbwynt y penwythnos oedd dysgu a recordio dawns a berfformiwyd mewn gwisgoedd Cymreig lliw coch gwyn a gwyrdd, a oedd wedi’u haddasu gan y merched.

Torfaen Youth Offending Team
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm