Ieuenctid Ty Sign
Daeth Ieuenctid Ty-Sign yn un llu ymladdgar i Amgueddfa’r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion. Ar ôl cael eu trwytho yn niwylliant y lluoedd arfog Rhufeinig, aethant ati i greu cymeriadau Rhufeinig, a oedd braidd yn debyg i’r bobl ifanc eu hunain! Roedd Craig newydd gael ei recriwtio, Hess yn freuddwydiwr a Tanna yn dwyllwr slei! Aeth Gareth i’r frwydr, ac ystyriodd Fazza pa dactegau ddylid eu defnyddio i drechu’r gelyn, wrth i Jamie gymharu swper olaf Iesu gyda’i brofiadau ei hun yng nghwmni ei ffrindiau yn Rhisga. Lluniodd pob un ohonynt eu sgript eu hunain a defnyddio meddalwedd digidol ac offer recordio sain i ddod â’r cymeriadau’n fyw mewn cyfres o storïau digidol unigryw. ‘Sgwn i beth fu eu hanes?









