Ysgol Gyfun Treorci
Ffrwyth cydweithio rhwng myfyrwyr Celf Btec Blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun Treorci, Maureen O’Kane, artist preswyl yn Ysbyty George Thomas a Louise Shenstone, Cydlynydd Celf Gyhoeddus ar gyfer Celf Cymunedol Rhondda Cynon Taf oedd y prosiect.
Penderfynodd y grŵp greu pâr o weithiau celf cyhoeddus i’w gosod ar safleoedd yn yr Ysgol ac yn Ysbyty George Thomas, ysbyty lleol i henoed â phroblemau iechyd meddwl. Thema’r prosiect oedd ‘Atgof’, oedd yn annog y grŵp i edrych ar hanesion personol a chanfod y ffordd orau o gofnodi a chyflwyno gwybodaeth amdanynt hwy eu hunain a’u teuluoedd. Bu’r myfyrwyr yn gweithio gyda gwrthrychau oedd yn cynrychioli aelodau hŷn o’r teulu, ac yn defnyddio nifer o dechnegau castio i greu castiau plastr basgerfwedd.
Rhoddwyd hwb i waith ymchwil y prosiect gydag ymweliadau grŵp i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, lle cymerodd y bobl ifanc ran mewn gweithdai castio gyda Carlos Pinatti. Aeth y grŵp hefyd ar ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a chael cyfle i edrych ar y casgliadau a thrafod yr amryfal ddulliau o ddehongli’r gorffennol gyda’r archaeolegydd Ken Brassil, gan roi mwy o syniadau iddynt ynglyn â sut i gadw ac arddangos atgofion.








