Prosiect “Yn Ein Hamser Ni”

Ar hyd y canrifoedd, mae’r Celfyddydau wedi chwarae rhan bwysig yn niwylliant ieuenctid, gan roi llwyfan ar gyfer mynegi ein barn, ein pryderon a’n gobeithion. Gan weithio gyda choreograffydd proffesiynol, penderfynasom greu cipluniau o ddiwylliant poblogaidd y 1920au, ‘40au, ‘60au, ‘80au a heddiw.

Roedd ein project yn cynnwys pob un o’r gweithgareddau canlynol:

  • Ymchwil yn Llyfrgell Abertawe
  • Dau ddiwrnod preswyl yn Nhŷ Dan-y-Coed, Abertawe
  • Taith gerdded adeiladu tîm ar Benrhyn Gwyr
  • Ymweliadau grŵp ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Abertawe a Chanolfan Gelf Taliesin
  • Gweithdai Dawns
  • Graffeg, TG a Gweithdai Celf
  • Perfformiad dawns ac arddangosion yn ystod lansiad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Fideo o waith project
  • Sgiliau a chymwysterau newydd a enillwyd

PDF version

Swansea Youth Offending Team Tantrwm
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm