‘Taith yn ôl i’r Canol Oesoedd’

Cyfrannodd y prosiect yma tuag at brosiect cymunedol o’r enw ‘The Wormhole’ a ddyluniwyd i ddangos i drigolion Draenen Pen-y-Graig bod cryn dipyn o hanes i’w hardal, sy’n rhan o hen lwybr pererinion.

Cymerodd y grŵp ran mewn amrywiaeth o weithgareddau a oedd yn archwilio agweddau ar fywyd yn y canol oesoedd. Archwiliodd y bobl ifanc fywydau mynachod canoloesol, ac aethant ar daith i’r Abaty lleol yn Llantarnam lle siaradodd y Chwaer Gabrielle gyda’r grŵp ynglyn â hanes yr adeilad a dangos dwy garreg fedd iddynt. Tybir mai’r rhain yw cerrig beddi’r mynachod fu’n byw yno.

Cymerodd y bobl ifanc hefyd ran mewn gweithdai ysgrifennu creadigol, gan lunio limrigau mewn ymateb i chwedlau lleol am ysbrydion. Cawsant hefyd eu hysbrydoli ar daith i Bentref Ganoloesol Cosmeston, a’u hannog i ddychmygu pa fath o bethau fyddai’n digwydd ym mhob un o’r adeiladau.

Casglwyd yr holl waith ymchwil a chreadigol ynghyd i lunio llyfryn terfynol.

PDF version

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm