‘Arlunio’r Sêr’

Coleg Abertawe

Cymerodd myfyrwyr o’r cwrs Trosglwyddo i Ddarpariaeth Oedolion ran mewn prosiect celf gymunedol cyffrous yn Nhŷ’r Stadiwm a Stadiwm Liberty.

Bu’r myfyrwyr yn paentio sêr o’r byd chwaraeon a cherddoriaeth, gan ganolbwyntio ar chwaraeon i bobl anabl a threftadaeth chwaraeon.

Drwy Brosiect Celf Stadiwm Liberty a gynhaliwyd gan Pippin’s Designs, cafodd y myfyrwyr gyfle i baentio a chwrdd â’u hoff sêr o Glwb Pêl Droed Dinas Abertawe a’r Gweilch.

Mae’r paentiadau gorffenedig a lluniau o’r myfyrwyr wrth eu gwaith wedi cael eu harddangos ym mhob rhan o Stadiwm Liberty.

Drwy’r prosiect, cafodd y myfyrwyr gyfle i ehangu eu sgiliau cymdeithasol a chynyddu eu hunanhyder.

PDF version

Swansea College Pippin's Designs
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm