Project Cyfryngau Ieuenctid Grŵp Gweithgareddau Torfaen (TAGs)

Gweithiodd Celfyddydau Cymunedol Dyffryn a Chwm ar y project hwn gyda grŵp o bobl ifainc yng Nghanolfan Cyfleoedd Torfaen, TOGs. Mae’r grŵp y gweithiem gyda hwy, sef Grŵp Gweithgareddau Torfaen (TAGs), yn grŵp unigryw o bobl ifainc gydag anableddau sy’n cyfarfod yn gyson ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau celf, chwaraeon a thripiau. Mae gan y grŵp lawer o ddiddordebau, er enghraifft dringo, peintio, bywyd gwyllt a natur, rhywbeth a ddaeth i’r amlwg yn ystod y project.

Ar gyfer y project Ar Dir Cyffredin hwn gweithiodd y grŵp gyda’r hwyluswyr cyfryngau Dyffryn a Chwm, Amy Peckham a Sophie Cobb, gan ddysgu sut i dynnu ffotograffau, cyfweld ei gilydd, gwneud fideo a chreu arddangosfa ar gyfer y Ganolfan. Anogwyd y grŵp i archwilio’u hamgylchedd lleol, gan edrych ar eu byd ac ar ei gilydd drwy lens a gwneud penderfyniadau am y ffordd y dymunent gael eu portreadu.

PDF version

Valley and Vale
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm