Rhoddodd gynhyrchiad Ieuenctid Antic, ‘Outside my Window’, gyfle i bobl ifainc ardaloedd difreintiedig Abertawe edrych ar y cysylltiadau rhwng y celfyddydau a’u bywydau bob dydd. Dyfeisiodd aelodau Antic, gyda chefnogaeth ac anogaeth artistiaid proffesiynol, berfformiad ag ysbrydolwyd gan ymweliad ag arddangosfa Oriel Gelf Glynn Vivian, ‘Ernest Zobole & Ystrad’.
Edrychodd y bobl ifainc yn fanwl ar baentiadau Zobole, gan edrych ar liwiau, siapiau, pobl a lleoedd, a chreu perfformiad yn cynnwys dawns, drama, cerddoriaeth a barddoniaeth. Anogwyd unigolion i edrych ar eu tirweddau a’u cymunedau eu hunain, yn union fel y gwnaeth Zobole yn Ystrad. Aethant ati i ddatblygu eu meddyliau a’u safbwyntiau eu hunain, gan eu cyfathrebu drwy gyfrwng eu perfformiad.
Mae Antic yn annog eu haelodau i fynegi eu hunain yn gorfforol ac yn emosiynol mewn amgylchedd meithringar, gan gynyddu eu hyder a’u hunan-barch ym mhresenoldeb eu cymheiriaid. Mae mentoriaid Antic yn meithrin agwedd bositif a brwdfrydig at gyflawniadau unigolion, anogir teuluoedd i sylwi arnynt a’u hedmygu wrth wylio’r perfformiadau.









