Prosiect Cerdyn Post SAVY ym Mlaenafon

Nod y prosiect hwn oedd portreadu Blaenafon a’r cyffiniau ar gerdyn post. Teimlai’r bobl ifanc nad oedd y cardiau post a oedd ar werth yn yr ardal yn adlewyrchiad teilwng o’r Blaenafon ‘go iawn’, a’u bod yn gwneud i’r lle ymddangos yn ddiflas a hen ffasiwn.

Penderfynodd y criw ddylunio’u cardiau post eu hunain drwy ddefnyddio delweddau fyddai’n gwneud i bobl weld Blaenafon o’r newydd gan gyflwyno’r dirwedd a’r gymuned o safbwynt unigolyn ifanc.

Bu’r grŵp yn ymchwilio i gardiau post presennol yr ardal, a phamffledi a llyfrynnau ymwelwyr, ac yn astudio amrywiaeth o ddyluniadau a meintiau gwahanol ar gyfer eu cardiau post. Aeth y grŵp i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael cyngor a gwybodaeth gan reolwr masnachol y safle ynglyn â sut i gynhyrchu a gwerthu cardiau post. Gan gofio’r holl wybodaeth a gasglwyd ganddynt, aeth y bobl ifanc ar daith drwy Flaenafon a’r cyffiniau gan dynnu lluniau o lefydd a phethau a gynrychiolai'r hyn a oedd yn bwysig a deniadol yn eu barn hwy. Dewiswyd ac addaswyd y delweddau gorau gan y bobl ifanc i greu’r dyluniadau gorffenedig.

PDF version

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm