Fforwm Ieuenctid y Rhondda
Bu Fforwm Ieuenctid y Rhondda yn brysur iawn yn ystod y chwe mis diwethaf. Yn ogystal â chyflawni eu dyletswyddau arferol, mae’r aelodau wedi gweithio’n galed i sefydlu gwefan newydd sy’n anelu’n benodol at helpu pobl ifainc i ddeall materion gwleidyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae safle decide4yourself yn rhoi:
- cyfleoedd i drafod ar-lein
- gwybodaeth am hawliau pobl ifainc
- gwybodaeth am hanes gwleidyddol
- cysylltau i’r adnoddau sydd ar gael i bobl ifainc
- cysylltau â gwleidyddion
Er mwyn lansio’r gwefan, derbyniodd y Fforwm wahoddiad gan yr A.S. lleol, Chris Bryant, i ymweld â’r Senedd. Ar ôl gweld y Ty, cyfarfu Chris â’r grŵp gan ateb cwestiynau’r fforwm am faterion sy’n bwysig i bobl ifainc y Rhondda. Mae fideo a ffotograffau o’r diwrnod i’w gweld ar y gwefan.
"Cynlluniwyd y gwefan i annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r byd gwleidyddol ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn cyfraniadau gan bobl ifainc ledled y byd"- Fforwm Ieuenctid y Rhondda








