Mae diwydiant yn mynd a dod, ac felly hefyd atgofion y sawl sy’n llafurio i ennill eu bywoliaeth.
Aeth pobl ifainc Penrhiwceibr ati i ymchwilio, ysgrifennu, ffilmio ac actio’r stori ddychmygol hon am löwr ifanc o Bwll Glo Cwm Cynon, a elwid yn “Jacky Daw” gan bobl leol. Mae’r project wedi annog pobl ifainc i edrych ar eu diwylliant a’u hetifeddiaeth leol, gan ennill Achredwaith Rhwydwaith y Coleg Agored ar yr un pryd.
Er mwyn gwneud ymchwil, aeth y bobl ifainc i Sefydliadau’r Glowyr, i fynwentydd eglwysi lleol a hyd yn oed i’r “Pwll Mawr”.
Mae eu stori yn cysylltu’r pethau a gymerir yn ganiataol gan bobl ifainc heddiw â’r caledi y bu’n rhaid i’w cymheiriaid ei ddioddef. Ysbrydolwyd y grŵp yn benodol gan yr hanesion am blant a phobl ifainc a weithiai yn y pwll glo.
Yn ogystal â gwerthfawrogi etifeddiaeth eu cymuned leol, bellach mae gan y cyfranogion atgofion parhaus y gallant eu rhannu â’u teuluoedd yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod.








