Is-grŵp Ieuenctid Tredegar Newydd
Aeth chwe merch flaengar sy’n aelodau o’r Is-grŵp Ieuenctid yn hen dref lofaol Tredegar Newydd draw i Big Pit er mwyn canfod sut fywyd gafodd eu cyndadau. Cawsant eu gwylltio gan amryw o bethau wrth ddadorchuddio’r hanes. Creulondeb tuag at anifeiliaid, plant, glowyr, a gwragedd; yn glir o flaen eu llygaid. Sylweddolodd y merched pa mor ffodus yr ydyn ni heddiw, mewn byd llawer mwy diogel. Gan gywain delweddau llonydd a sgriptiau a ysgrifennwyd gan y grŵp, aethant ati i lunio storďau digidol i gofnodi eu darganfyddiadau.









