Bargen Newydd
Yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, roedd pedwar person ifanc o Grŵp Bargen Newydd Y Coed Duon yn gwrando, tynnu ffotograffau a rhannu eu profiadau mewn cylch stori. A dechreuasant freuddwydio... breuddwydiodd Carla ei bod hi’n gwisgo’r dillad hardd a welodd yn yr amgueddfa wisgoedd. Breuddwydiodd Peter am yrru... nid hen dractor, fel y rhai a welodd yn yr Amgueddfa, ond am yrru ei hoff gar, Kitt. Dychmygodd Sean ei fod yn rheoli ei dîm rygbi ei hunan, gan ei arwain i fuddugoliaeth a gweithiau da; tra roedd David yn dyheu am weld y tîm y breuddwydiai amdano, Manchester United, yn chwarae pêl-droed.
Ac felly, aethant ati i droi eu breuddwydion yn ffilmiau... straeon digidol.
Cynllun gan y Llywodraeth yw Bargen Newydd, sy’n anelu at roi’r cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol i’r di-waith i’w helpu i ddod o hyd i waith.









