Mosäig Penglais

Bu grŵp o bobl ifanc o Ysgol Uwchradd Penglais yn Aberystwyth yn dylunio a chreu mosäig gwych sy’n dehongli hanes harbwr Aberystwyth. Tarddodd y syniad o brosiect ‘Afonydd i’r Môr, Harbwr i’r Byd’, sy’n anelu i godi ymwybyddiaeth ynglyn â hanes morol Aberystwyth. Dewisodd y grŵp bedair llong fu’n hwylio o harbwr Aberystwyth pan oedd yr harbwr yn ei anterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg: y Volunteer, brigantîn oedd yn nodweddiadol o’r math o long fyddai’n cludo cargo lleol; yr Edith Eleanor, y llong bren olaf i gael ei hadeiladu yn Aberystwyth; y Countess of Lisbourne, y stemar olaf i ddefnyddio’r harbwr; a’r bad achub Elizabeth Lloyd. Yn rhan o’r gwaith ymchwil, ymwelodd y grŵp â ‘Badau Achub Aberystwyth’ yn Amgueddfa Ceredigion. Gellir gweld y mosäig yn harbwr Aberystwyth.

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm