Y Project Bwrdd Gwyddbwyll

Datblygwyd y project yn wreiddiol gan bobl ifainc a Mike Hodges, gweithiwr ieuenctid, yng nghanolfan ieuenctid Miskin (Aberpennar), er mwyn defnyddio’r offer gwaith coed rhagorol a roddwyd i’r clwb ieuenctid gan noddwyr preifat, a dod ag elfennau newydd seiliedig ar gelf i raglen y clwb.

Yn ystod yr wythnosau o waith ymchwil, ystyriwyd ad-drefnu portreadau yn chwareus drwy ddefnyddio torluniau a delweddau cysgod. Yn ystod ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cawsom hyd i’r ddelweddaeth a ddefnyddiwyd yn y man i wneud y darnau gwyddbwyll. Cymerwyd pob darn yn uniongyrchol o’r casgliad.

Tafluniwyd lluniadau’r cyfranogwyr ar bren ac yn eu tro aethant ati i dorri’r holl ddarnau ar herclif fanwl. Bu gwaith yr artist David Nash yn ddylanwad ar wead y darnau terfynol, ac roedd y cysgodion a’r gweadau yn amlwg yn ein harbrofion, gyda dehongliadau cardfwrdd o glymau Cymreig.

Terry Chinn, Artist y Project

www.qolp.co.uk

PDF version

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm