Ysgol Haf MAST ‘06

Bu pobl ifanc o bob rhan o Abertawe’n cymryd rhan yn ail ysgol gelf MAST a gynhaliwyd yn ystod yr haf yn Amgueddfa Abertawe. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys darlunio, celf ar y traeth, cerflunio, gwaith fideo, adrodd storïau a pherfformio, gan ddefnyddio casgliad Eifftaidd yr amgueddfa fel ysbrydoliaeth.

Daeth yr wythnos gyntaf i ben gyda Gorymdaith y Mymïaid, pan wisgodd rhai o’r bobl ifanc fel mymïaid a gorymdeithio drwy strydoedd Abertawe er mawr syndod i bawb a gerddai heibio. Daeth yr orymdaith i ben yng Ngerddi’r Castell yn Abertawe lle cafodd cerflun o fymi ei drochi yn y dŵr mewn defod arbennig. Cymeradwyodd ymwelwyr a siopwyr y gorymdeithwyr, a phenderfynodd rhai ymuno â’r orymdaith hyd yn oed. Roedd yr orymdaith yn gyfle gwych i’r amgueddfa gysylltu â’r cyhoedd ar y stryd a hyrwyddo ei chasgliad gwych.

Yn ystod yr ail wythnos, canolbwyntiodd y bobl ifanc a fynychodd y cwrs ar waith fideo, creu llinellau stori, ysgrifennu sgriptiau, gwneud props, ffilmio a golygu i greu ffilmiau byr difyr gan ychwanegu eu cerddoriaeth eu hun atynt.

PDF version

Swansea County Council Arts and Education
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm