MAST – Gwneud Celf yn yr Haf

Rhoddodd Ysgol Haf Cerflunwaith MAST y cyfle i bobl ifainc archwilio’r ardal o amgylch Amgueddfa Abertawe ac ymateb i’w chasgliad hynod eclectig. Archwiliwyd themâu diwydiannol a morol a holwyd cwestiynau am ymarfer amgueddfa.

Ymatebodd y bobl ifainc i’r her, a chyda chymorth artistiaid proffesiynol crëwyd gweithiau soffistigedig a phrydferth iawn yn ogystal â gweithiau ysgafnach, mwy doniol. Aethant ati i gydweithio gyda dyfalbarhad ac ymrwymiad, a chynyddodd eu hyder a’u huchelgais.

Gweithiodd y bobl ifainc yn yr awyr agored, mewn rhan o’r dociau sydd ar fin cael ei ailddatblygu, gan gasglu defnyddiau a gwrthrychau hapgael a adroddai hanes Abertawe fel porthladd. Defnyddiwyd y rhain yn y fan a’r lle i greu darnau mawr o waith safle-benodol.

Cludwyd rhai o’r defnyddiau yn ôl i’r Amgueddfa ac fe’u harddangoswyd mewn casys neu fel arall fe’u defnyddiwyd i greu gosodiadau gydag arwyddocâd ac ystyr ychwanegol.

Gwnaeth y bobl ifainc fideo i gofnodi eu profiadau, cyn ei olygu i greu ffilmiau byr sy’n llwyddo i gyfleu hanfod y project.

PDF version

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm