Ysgol Gyfun Llanfarthin
Aeth storïwyr digidol o Ysgol Gyfun Llanfarthin, Caerffili i Big Pit gan ryw led amau na fyddai unrhyw beth diddorol i’w weld. Yn y cylch stori dilynol, rhoddodd y disgyblion eu hargraffiadau cyffredinol... “gweithgar”, “swnllyd”, “cyfeillgar”, “unig”... Wrth iddynt siarad, sylweddolodd pob un bod agweddau o fywyd y Pwll yn cyfateb â digwyddiadau yn eu bywydau eu hunain. Lluniodd pob un ohonynt eu sgript eu hunain a defnyddio meddalwedd digidol ac offer recordio sain i ddod â’u profiadau’n fyw mewn cyfres o storïau digidol unigryw, gan drafod themâu fel gwaith tîm, cyfeillgarwch, damweiniau, breuddwydion ac unigedd.









