Canolfan Galw Heibio Llanharan a Pippin’s Designs
Rhannwyd y project hwn yn ddau ran. Cynhaliwyd y rhan gyntaf yn y ganolfan galw heibio, lle datblygwyd syniadau’r cyfranogwyr ...
"Roedden ni eisiau gwneud project am bobl enwog. Dewison ni’r bobl hyn am mai nhw ydy’n heilunod ni. Roedd e’n hwyl" - Hollie Owen
Yna ymunodd y grŵp â phobl ifainc o Ysgol Arbennig Woodlands a threulio 2 ddiwrnod ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, yn peintio cyfres o ddelweddau o ‘chwaraewyr chwedlonol’ Clwb Rygbi Caerdydd ar gyfer eu mur o enwogion
"Cawson ni’r profiad gorau posibl ym Mharc yr Arfau Caerdydd – roedd e’n anhygoel!" - Alana Hole
"Peintion ni chwaraewyr chwedlonol Caerdydd, cawson ni lawer o hwyl a hyd yn oed gwobr am ein hymdrechion!" - Tomos Worgan
"Mwynheues i beintio Bob Norster yn fawr, gan ‘mod i wedi cwrdd ag e ar y diwrnod; daeth e i mewn i siarad gyda ni i gyd – GRÊT!" - Justin Scannell








