Rhoddodd cynhyrchiad Antic Youth, ‘Teenage Kicks’, gyfle i bobl ifanc o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf ac Adfywio Abertawe gael archwilio’r cysylltiadau rhwng y celfyddydau a’u bywydau bob dydd. Gyda chymorth artistiaid proffesiynol, aeth aelodau Antic ati i greu perfformiad a oedd yn rhoi gwedd ysgafn ar ddiwylliant ieuenctid y ‘60au, y ‘70au a’r ‘80au.
Ymchwiliodd y bobl ifanc i ddigwyddiadau o’r newyddion dros y tri degawd, gan gyfweld â’u rhieni a’u neiniau a’u teidiau i gael storïau o’r cyfnod pan roeddent yn eu harddegau. Yn seiliedig ar hyn, creodd y criw berfformiad a oedd yn cynnwys dawns, drama, cerddoriaeth a barddoniaeth. Cawsant eu hannog i ddatblygu eu meddyliau a’u barn i gynhyrchu gwaith ar gyfer y perfformiad terfynol.
Mae Antic yn annog eu haelodau i fynegi’u hunain yn gorfforol ac yn emosiynol mewn amgylchedd cefnogol, gan gynyddu eu hyder a’u hunanwerth a’u cymeradwyo o flaen eu cyfoedion. Mae mentoriaid Antic yn meithrin agwedd gadarnhaol a brwdfrydig ymysg unigolion tuag at eu cyraeddiadau. Anogir teuluoedd i edmygu a sylwi ar hyn wrth wylio’r perfformiad.








