Prosiect Mamau Ifanc St. Ilan

Daeth amryw o ferched o Brosiect Mamau Ifanc yng Nghaerffili ar ymweliad i Blas Llancaiach Fawr. Gadawyd y babanod mewn crèche symudol tra cafodd y merched gyfle i deithio’n ôl mewn amser i gyfnod y Rhyfel Cartref. O ystyried eu profiadau eu hunain, roeddent yn arswydo wrth glywed na fyddai meddyg wrth law wrth i ferch roi genedigaeth yn y cyfnod hwnnw. Yn lle hynny, byddai’n gweiddi cyfarwyddiadau gyda llais awdurdodol drwy’r drws, heb weld yr enedigaeth ei hun. O glywed y fath fanylion, teimlai’r merched yn falch mai mamau o’r cyfnod hwn yr oeddynt, ac aethant yn eu blaenau i ddathlu’r llawenydd a gânt o’u plant drwy greu straeon digidol amdanynt.

Straeon digidol!

PDF version

Breaking Barriers Caerphilly County Council
St Ilan Young Mums
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm