‘Hirwaun – Ddoe a Heddiw’

YMCA Hirwaun

Rhannwyd y project hwn yn ddau ran.

Rhan 1 yng Nghlwb Rygbi Caerdydd, yn cynhyrchu paentiadau o chwaraewyr presennol y clwb.

"Roedd yn brofiad gwych i fynd i stadiwm Gleision Caerdydd a chwrdd â rhai o’r chwaraewyr a gwylio chwaraewyr rygbi Cymru yn hyfforddi" - Daniel
"Aethon ni i lawr i stadiwm rygbi Gleision Caerdydd a pheintio rhai o’r chwaraewyr ac mi wnaethon ni wylio sgwad Cymru’n hyfforddi. Hefyd, gawson ni ginio bwffe yn lolfa’r chwaraewyr" - Aaron

Rhan 2 yn YMCA Hirwaun, yn creu gwaith celf ar gyfer wal Llyfrgell Hirwaun.

Roedden ni eisiau creu gwaith celf a fyddai’n adlewyrchu hanes ein pentref a sut fath o le ydy e heddiw i fyw ynddo fe. Gerddon ni o gwmpas Hirwaun gyda’n camerâu gan dynnu ffotograffau o dirnodau fel Pwll Glo’r Tŵr, yr orsaf heddlu leol a’r fflatiau, llefydd a fyddai’n rhoi darlun cywir o’n pentref, ddoe a heddiw.

"Roedd hi’n dda i beintio rhai o’r tirnodau. Y paentiadau gorau oedd y rhai o gapel Ramoth yn Hirwaun" - Daniel
"Dreulion ni ddau ddiwrnod yn yr YMCA ac mi wnaethon ni dynnu ffotograffau o Bwll Glo’r Tŵr, y fflatiau, Ramoth a’r bont wrth y gronfa ddŵr ym mlaenau’r cwm. Gawson ni i gyd amser gwych yn gweithio gyda Jon a Sally" - Aaron
"Mi wnaeth safon uchel gwaith celf y bobl ifainc argraff dda iawn arnom ni" - Gail Reed, YMCA Hirwaun

PDF version

Pippin's Designs
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm