Gan gydweithio â ‘Mobile Arts Project’, mae grŵp o bobl ifainc o Ysgol Hen Felin wedi dylunio a chynhyrchu murlun o deils yn dangos yr hen felin a safai gynt ar safle’r ysgol. Mae’r dyluniad yn cyfleu hanes y tir a tharddiad enw’r ysgol.
"Mae’n hyfryd gennym gydweithio ag Amgueddfa Cymru ar broject mor werthfawr, gan ddod â hanes yn fyw drwy gyfrwng celfyddyd. Mae’r project wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o hanes tir ein hysgol ac o’r Rhondda gyn-ddiwydiannol."
Tim Leyshon, Dirprwy Bennaeth
"Roedd pawb a gymerai ran yn rhoi eu sylw llawn i’r fenter ac yn frwdfrydig iawn; cyfrannodd pawb yn sylweddol i’r project..."
Ceri Walters, Artist







