‘Ein Treftadaeth’

Prosiect Cyfrwng Cymysg yn Ysgol Uwchradd Hawthorn.

Bu ein grŵp yn cymryd rhan mewn clwb ar ôl yr ysgol i greu gweithiau celf cyfrwng cymysg a oedd yn canolbwyntio ar thema ‘Treftadaeth Cymru’, ac wedi’u hysbrydoli gan weithiau o arddangosfa Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Wrth ymchwilio i’r thema ‘Treftadaeth Cymru’ yn ein gwersi celf, gwnaethom feithrin dealltwriaeth ynglyn â’r pwnc, a chyflwyno ein syniadau ar ganfas a ffilm. Buom yn casglu ac yn arbrofi gyda deunyddiau, lluniau a barddoniaeth Gymreig, a gafodd eu cynnwys ar ein byrddau i greu gweithiau celf hynod unigryw a gwreiddiol.

"Dewisais osod celf Geltaidd, tai rhes a mynyddoedd ar fy mwrdd i gan eu bod yn gysylltiedig â Chymru a threftadaeth Gymreig" – Alex
"Mi wnes i fwynhau defnyddio cymysgedd o gyfryngau i ddylunio fy mwrdd; cefais rai syniadau gan yr artist Sue Williams o arddangosfa Artes Mundi" – Gemma
"I gyd-fynd â’r thema Gymreig, buom yn ymchwilio barddoniaeth Gymreig, yn edrych ar luniau Cymreig ac yn ystyried yr hyn yr oedd Cymru’n ei olygu i ni" – Ross

PDF version

Valley and Vale Community Arts
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm