Project Cerddoriaeth Cymraeg a Threftadaeth Rygbi gan Ganolfan Ieuenctid Griffithstown
Rhannwyd y project yn ddwy ran.
Treuliwyd y rhan gyntaf yng Nghlwb Rygbi Caerdydd, lle aethom ati i greu paentiadau o chwaraewyr presennol y clwb.
Treuliwyd yr ail ran yng Nghanolfan Ieuenctid Griffithstown.
"Cyn i ni gyfarfod â Jon a Sally, yr artistiaid a weithiodd gyda ni ar y project, gwnaethom ymchwil a thrafod beth roedd ‘Diwylliant Cymreig’ yn ei olygu i ni. Cerddoriaeth a rygbi oedd y ddwy brif thema a gododd o’n sgyrsiau fel grŵp, ac felly penderfynasom greu gwaith celf a fyddai’n adlewyrchu’r ddau bwnc yn y ffordd orau. Rydyn ni wedi creu paentiadau o gerddorion a chwaraewyr rygbi Cymreig heddiw a ddoe".
"Do’n i ddim yn gwybod ‘mod i’n gallu peintio!"
"Dwi eisiau gwneud y math yma o beintio ar wal fy ‘stafell wely!"
"Mi wnes i wir fwynhau’r ddau ddiwrnod, roedd Jon a Sally’n grêt!"
Cyfranogwyr y project
"Roedd hwn yn broject llwyddiannus iawn a dangosodd bob un o’r bobl ifanc ddiddordeb mewn peintio a threftadaeth".
Canolfan Ieuenctid Griffithstown








