Cynhanes Heddiw!

Project Cerflunio gan Dîm Cymorth Teuluol Cyngor Sir Ceredigion a’r Arlunydd Cymunedol, Pod Clare

Treuliodd pobl ifanc o Dîm Cymorth Teuluol Ceredigion fis yn creu project cerflunio cyffrous. Ysbrydolwyd gwaith y tîm gan eu hymweliad â Chastell Henllys, bryngaer o’r Oes Haearn, lle cawsant brofiad o fyw bywyd dyn cynhanesyddol am ddiwrnod. Mae’r cerfluniau’n cynnwys deunyddiau a ddefnyddir gan bobl heddiw ac a ddefnyddiwyd yn y cyfnod cynhanesyddol, ac yn codi ymwybyddiaeth o realiti bywyd 2,500 o flynyddoedd yn ôl drwy ei gymharu â bywyd yng Nghymru heddiw.

PDF version

Ceredigion County Council
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm