Daeth prosiect ‘Fferru Ffrâm’ â grŵp o bobl ifanc ynghyd o bob rhan o Abertawe a oedd â diddordeb mewn archwilio safleoedd o ddiddordeb diwylliannol a datblygu sgiliau newydd mewn ffotograffiaeth ddigidol.
Aeth y bobl ifanc ar ymweliadau i’r Eisteddfod Genedlaethol, Ogofâu Dan yr Ogof, Bae’r Tri Chlogwyn a Chastell Carreg Cennen. Ym mhob un o’r lleoliadau hyn, cafodd y bobl ifanc brofiad o weithio o flaen a thu ôl i’r camera, gan feithrin eu gallu artistig a thechnegol. Cawsant hefyd gyfle i fynychu perfformiad yn Theatr y Grand yn Abertawe a rhoi cynnig ar saethyddiaeth yng Nghanolfan Coedwig Peris.
Bu’r ffotograffydd, Kirsten McTernan, yn gweithio gyda’r grŵp ym mhob un o’r safleoedd, gan helpu’r bobl ifanc i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn a oedd o’u hamgylch a gwerthfawrogi eu treftadaeth eu hunain. O dan ei harweiniad, tynnodd y cyfranogwyr amrywiaeth o ffotograffau trawiadol o’r lleoliadau, ohonynt ei gilydd, ac o fyd natur a’r dirwedd oddi amgylch.
Yn rhan o’r prosiect trefnodd y bobl ifanc arddangosfa o’u gwaith yn yr Ystafell Wen yn Adain Gelf Theatr y Grand yn Abertawe. Mae’r casgliad deinamig yma o waith yn portreadu profiadau pobl ifanc ac yn dal prydferthwch tragwyddol Cymru.








