Tŷ Cymunedol Fairview

Prosiect Celf

Nod y prosiect hwn oedd cynhyrchu gwaith celf gweledol ar gyfer y tŷ cymunedol yn Fairview, gan gynnwys arwydd ar gyfer y tu allan i’r adeilad a gweithiau celf fyddai’n addurno nifer o’r ystafelloedd y tu mewn i’r adeilad.

Roedd y bobl ifanc yn ymddiddori mewn celf drefol unigryw a oedd yn hawdd ei ddeall, a datblygwyd y syniad yma er mwyn creu paentiadau mawr a ddewiswyd gan y bobl ifanc. Ymchwiliodd y grŵp i ddelweddau o graffiti mewn llyfrau, a thrafod y math o waith y gallent ei gyflawni yn y tŷ. Yna, defnyddiodd y criw gamerâu tafladwy i dynnu lluniau o’r hyn a oedd o’u hamgylch, ac ohonynt hwy eu hunain, gan ddewis yr hyn fyddai’n adlewyrchu eu ffordd o fyw orau. Cafodd y delweddau hyn eu chwyddo a’u trosglwyddo i’r byrddau mawr a baentiwyd ar y safle.

Cafodd y grŵp eu hysbrydoli gan ymweliad ag Arddangosfa Wynebau Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yno buont yn archwilio ac edrych ar enghreifftiau o bortreadau, gan ddefnyddio’r rhain i greu eu hunanbortreadau eu hunain gan ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth artistig.

PDF version

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm