Gofynnwyd i grŵp o bobl ifanc o Brosiect Cymunedol Penyrenglyn hel casgliad o wrthrychau personol i’w cynnwys yn rhan o’r arddangosfa gyntaf yn oriel newydd arloesol Sain Ffagan – Oriel 1. ‘Perthyn’ yw thema’r arddangosfa ac mae casgliad y grŵp yn annog ymwelwyr i ystyried yr amryw o ffyrdd y gall rhywun berthyn i wlad fel Cymru. Mae’r casgliad o wrthrychau’n unigryw a gwreiddiol, yn union fel y rhai a’u dewisodd. I gyd-fynd â’r arddangosfa, mae’r grŵp wedi cynhyrchu detholiad o ffilmiau byr sy’n rhoi dehongliad dychmygus o’r atgofion a’r hanes sy’n gysylltiedig â phob eitem.










