Dim Prob

Bu grŵp bach o bobl o grŵp gwirfoddolwyr cymunedol Dim Prob yn dylunio a chreu mosäig gwych i goffáu’r gwarchae ar Gastell Aberystwyth yn ystod Rhyfel Cartref Prydain. Roedd y mosäig yn rhan o brosiect mwy sy’n cael ei gynnal gan Amgueddfa Ceredigion i ail-ddehongli treftadaeth gyfoethog Castell Aberystwyth. Cyflwynodd y Gymdeithas er Dehongli Treftadaeth wobr i Amgueddfa Ceredigion yng Ngwobrau Dehongli Prydain ac Iwerddon 2006 i gydnabod safon ragorol y gwaith a wnaed gan y bobl ifanc, gan gymeradwyo’r amgueddfa am “ymdrechu i’r eithaf... i gynnwys ystod eang o grwpiau”. Mae’r gwaith yn cael ei arddangos yn barhaol yng Nghastell Aberystwyth.

Dim Prob
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm