Ysgol y Merched, Aberdâr
Ymunodd grŵp o bobl ifanc o Ysgol y Merched, Aberdâr â’r artist Sean Harris, y bardd Iwan Llwyd, y cerddor John Kenny a thîm o archeolegwyr o Amgueddfa Cymru, i archwilio hanes y chwedl sy’n gysylltiedig â chasgliadau’r Amgueddfa o wrthrychau haearn ac efydd a ddarganfuwyd yn Llyn Fawr, sydd wedi’i leoli mewn ardal sy’n gyfagos â’r Ysgol, a Llanmaes ym Mro Morgannwg.
Daeth y bobl ifanc, yr artistiaid a’r archeolegwyr ynghyd i greu ffilm fer animeiddiedig unigryw o’r enw ‘Dadeni’, sy’n cyfuno casgliadau archeolegol rhyfeddol Llyn Fawr a Llanmaes â hen chwedlau cyffrous.
Yn rhan o ddangosiad swyddogol cyntaf y ffilm, bu’r bobl ifanc yn gweithio fel tywyswyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn arwain ymwelwyr a gwesteion o amgylch orielau archeolegol yr Amgueddfa, gan archwilio dulliau a thechnegau newydd o gyflwyno’u gwaith a’r casgliadau i’r gynulleidfa.







