‘Pili Pala’

Canolfan Ieuenctid Cwmbran (CCYP)

Gweithion ni gyda Helen Clifford, yr artist ag arweiniai ein project, i ddatblygu’r syniad o wneud blancedi babanod a chardiau fflach. Fel grŵp roedden ni’n awyddus i edrych ar themâu etifeddiaeth a diwylliant, ond gan gadw’r ffocws ar ein plant.

Aethon ni i Sain Ffagan i edrych ar gwiltiau a blancedi traddodiadol ac yna treulio sawl wythnos yn cynhyrchu ein blancedi babanod ein hunain. Yn ystod y cyfnod hwn, dysgon ni lawer o sgiliau newydd fel dylunio a gwnïo, a hefyd sgiliau TGCh.

"Roedd hwn yn broject diddorol a phleserus a roddodd gyfle nid yn unig i ni ddatblygu’r sgiliau hyn ond hefyd i gyfarfod â’n gilydd a siarad am ein plant a’n profiadau." - Sian Hillier, un o gyfranogwyr y project

PDF version

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm