Y Ganolfan Ymchwil Perfformio (CPR), Ceredigion
Bu cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai theatr a pherfformio o safon uchel o dan arweiniad artistiaid gwadd o’r DU ac artistiaid rhyngwladol o brosiect Summer Shift y Ganolfan Ymchwil Perfformio. Roedd y gweithdai’n trafod materion diwylliannol sy’n gysylltiedig ag archifau perfformio aml-ddiwylliant y CPR ei hun, yn ogystal ag addysgu sgiliau celfyddydol drwy ddefnyddio’r llais a’r corff.







