Project Tecstilau gan Gwrs Mynediad i Addysg Bellach Coleg Ceredigion yn Aberystwyth
Treuliodd pobl ifanc o Gwrs Mynediad i Addysg Bellach dri mis yn creu croglun tecstil ar gyfer y project Ar Dir Cyffredin. Roedd y project yn cyferbynnu ffordd o fyw trigolion Ceredigion gan mlynedd yn ôl â’r ffordd rydym yn byw heddiw.
Llwyddodd y bobl ifanc i ddod â hanes a diwylliant eu hardal yn fyw drwy ymchwilio a thrwy ymweld ag Amgueddfa Mwynglawdd Arian-Plwm Llywernog ac Amgueddfa Ceredigion.








