‘Taith Breuddwydion a Gobaith’

Project Mainc Friciau Ysgol Gyfun Coedylan

Gan weithio gyda Helen Clifford a Michele Browne, yr artistiaid a arweiniai ein project, datblygwyd y syniad o greu mainc y gellid ei gosod y tu allan i ganolfan chwaraeon newydd ein hysgol. Edrychasom ar wahanol gynlluniau gan artistiaid a weithiai gyda briciau, ac aethom i Fae Caerdydd i edrych ar weithiau celf cyhoeddus, gan ystyried eu perthynas â’u hamgylchedd. Cawsom ein hysbrydoli gan arddangosfa Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn ogystal â chasgliad cerameg yr Amgueddfa. Aethom ati i weithio ar gynlluniau unigol, cyn cyfuno ein syniadau i ffurfio un cynllun ar y cyd.

Mae’r fainc ar ffurf ‘S’ ac wedi’i haddurno â delweddau sy’n ffurfio tair elfen wahanol – yr hen bont ym Mhontypridd sy’n rhan o’n taith ysgol; yr afon gyda neidr yn diosg ei chroen, sy’n cynrychioli ein taith trwy fywyd; a delweddau o weithgareddau yn cynrychioli ein hoff bynciau, celf, TG, AG, cerddoriaeth a drama, sy’n cwmpasu ein breuddwydion a’n gobeithion at y dyfodol. Bydd y fainc yn rhoi’r cyfle i bobl eistedd i lawr a mwynhau golygfeydd o fynyddoedd Glyncoch a Chilfynydd, sy’n sefyll y naill ochr a’r llall i’n hysgol.

"Mi wnes i fwynhau gwneud mainc ysgol y bydd pawb yn gallu’i defnyddio"
"Mae’r fainc yma fel siwrnai droellog bywyd ysgol"

PDF version

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm