'Perygl yn y Parc!'

Ysgol St Cenydd

Roedd dosbarth chweched dosbarth Astudiaethau’r Cyfryngau o Ysgol St Cenydd yn fwy na pharod am eu hymweliad â Pharc Margam gyda phrosiect Ar Dir Cyffredin. Roedd pawb yn gyfarwydd â’r lle ar ôl bod yno droeon yn blant, ac fe roddodd y warden gyflwyniad ynglyn â’i gadwraeth a’i hanes. Ond doedd y myfyrwyr ddim yn barod am y digwyddiadau brawychus a gafwyd ar eu taith y diwrnod gwlyb hwnnw ym mis Tachwedd; daeth seicos, gwrachod, brwydrau ac ysbrydion o bob cyfeiriad nes iddynt ddianc wedi dychryn am eu bywydau yn ôl i ddiogelwch y bws mini. Gan gywain lluniau llonydd ynghyd gyda’u sgriptiau eu hunain, adroddodd y myfyrwyr storïau digidol er mwyn cofnodi’u profiadau: storïau’n llawn ffantasi a chwerthin.

Straeon digidol!

PDF version

Breaking Barriers Caerphilly County Council
Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm