Prosiect Celfyddydau a Chyfryngau ar y Cyd, Prosiect Pobl Ifanc Cwmbrân (CYPP) a Celfyddydau Cymuned a Bro
Sefydlwyd y prosiect i gynorthwyo pobl ifanc i ymwneud â hanes a diwylliant eu hardal leol. Ar ôl y cyfarfod cyntaf, penderfynodd y grŵp eu bod am gynhyrchu prosiect celfyddyd weledol a ffilm, i fynegi’u syniadau ynglŷn â byw yng Nghwmbrân. Lluniodd y grŵp restr o’r manteision a’r anfanteision o fyw yng Nghwmbrân. Roedd y rhestr o anfanteision yn hirach yn y lle cyntaf, ond fe sylweddolwyd eu bod, gyda’i gilydd, yn gwybod llawer am Gwmbrân.
Rhoddodd y bobl ifanc eu holl syniadau at ei gilydd i gynhyrchu arddangosfa arloesol, a oedd yn cynnwys ffilm, morlo o glai, pennau clai sy’n siarad a thafluniadau graffiti yn y cefndir.
Ar ddechrau’r prosiect, roedd nifer o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn ddihyder ynglŷn â’u gallu i gynhyrchu gweithiau celf. Hefyd, roedd gan rai broblemau a heriau yn eu bywydau personol a gafodd effaith ar y prosiect. Roeddem yn awyddus i’w hannog i sylweddoli yr hyn y gallent ei gyflawni, ac iddynt feithrin eu hyder a’u hunan barch trwy fod yn greadigol. Bu’r bobl ifanc yn gweithio’n eithriadol o galed i gynhyrchu darnau o waith cyffrous dros ben.







