Project Fideo gan Ofalwyr Ifanc y Groes Goch Brydeinig, Ceredigion a Chelfyddydau Cymuned Cwm a Bro
Cwblhaodd pobl ifanc o Ofalwyr Ifanc y Groes Goch Brydeinig, Ceredigion broject fideo ar hanes ofergoelion eu sir. Drwy gyfweld haneswyr lleol a chynnal eu hymchwil eu hunain mae’r grŵp wedi creu fideo arloesol sy’n edrych yn fanwl ar hanes coelion gwerin yng nghefn gwlad Cymru, yn ogystal â’u barn eu hunain am y pwnc arswydus hwn.








