‘Adfywiad Carnifal Cymuned’

Daeth yn amlwg yn ystod cynhadledd ieuenctid lleol a gynhaliwyd yn 2003 bod pobl ifainc Eastside, Abertawe yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned. Un o’r rhesymau dros hyn oedd y ffaith eu bod wedi clywed hanesion am yr ‘hen ddyddiau’ ac yn arbennig, hen garnifalau cymuned.

Yn 2005 ffurfiwyd Pwyllgor Carnifal er mwyn adfywio’r carnifal cymuned – y cyntaf ers dros 30 mlynedd. Roedd grŵp o bobl ifainc yn awyddus i brofi a chofnodi pob agwedd o’r carnifal ar ffilm at y dyfodol. Aeth y bobl ifainc hyn ati i ymchwilio i ddeunyddiau archifol o ddechrau’r 1900au hyd at ganol y 1970au, a chyfweld aelodau hŷn y gymuned er mwyn deall carnifalau’n well a datblygu eu project ymhellach. Mynychodd y grŵp weithdai hyfforddiant ffilm, a gynhaliwyd gan Arts for Us, cyn cynhyrchu DVD y gall aelodau’r gymuned bresennol a chymunedau’r dyfodol ei mwynhau.

PDF version

Prosiect gan Amgueddfa Cymru
Crëwyd y wefan gan Tantrwm